Lleoliad:
[INSERT LOCATION]
Dyddiad: Dydd Llun, 27 Mehefin 2022
Amser:
12.00 -
17.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12920
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jenny Rathbone AS (Cadeirydd) Jane Dodds AS Altaf Hussain AS Sarah Murphy AS Sioned Williams AS Ken Skates AS Joel James AS Peredur Owen Griffiths AS |
Tystion: |
Jane Hutt AS, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol Amanda Blakeman, Heddlu Gwent Alistair Davey, Llywodraeth Cymru Alison Plant, Tîm Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Richard Tompkins, Welsh NHS Employers' Unit Sue Hill, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Helen Rees, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Geraint Thomas, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru Shân Morris, Awdurdod Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru Dr Heather Payne, Prif Swyddog Feddygol, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Rhys Morgan (Clerc) Rachael Davies (Ail Glerc) Angharad Roche (Dirprwy Glerc) Stephen Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) Samiwel Davies (Cynghorydd Cyfreithiol) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau.
Cafwyd ymddiheuriadau gan Ken Skates ar gyfer Eitem 2.
Roedd Peredur Owen Griffiths yn bresennol yn lle Sioned Williams a Joel James yn bresennol yn lle Altaf Hussain ar gyfer pob eitem ar yr agenda yn ymwneud â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
2 Ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol – menywod mudol: sesiwn dystiolaeth 4
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan Ddirprwy Brif Gwnstabl Amanda Blakeman.
3 Ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol – menywod mudol: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (iv) ac (ix) i wahardd y cyhoedd o eitemau 5 a 9 ar yr agenda.
Derbyniodd yr Aelodau’r cynnig.
5 Ymchwiliad i drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol – menywod mudol: ystyried y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
6 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth un
Clywodd yr Aelodau dystiolaeth gan Richard Tompkins, Cyflogwyr y GIG a
Sue Hill, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
7 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): sesiwn dystiolaeth dau
Clywodd yr aelodau dystiolaeth gan:
Geraint Thomas, Prif Swyddog Cynorthwyol Dros Dro, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
Helen Rees, Pennaeth Caffael, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Shân Morris, Prif Swyddog Cynorthwyol, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
8 Papurau i'w nodi
Nododd yr Aelodau y papur.
8.1 Llythyr oddi wrth Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
9 Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru): ystyried y dystiolaeth
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.